WRTH i’r Canghellor Rishi Sunak gyhoeddi estyniad i’r Cynllun Cadw Swyddi mor fuan ag yfory – ond gyda Llywodraeth San Steffan ond yn talu 60% o gyflogau gweithwyr yn hytrach na 80%.mae Helen Mary Jones AS Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn i helpu’r sawl nad ydynt yn gymwys am gynllun cadw swyddi Llywodraeth San Steffan

Mae pobl na fedr fynd ar Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth San Steffan yn gorfod “byw oddi ar gardiau credyd” i gadw dau ben llinyn ynghyd.

Fodd bynnag, mae miliynau o bobl yn anghymwys am y gefnogaeth ac ni allant chwaith hawlio Credyd Cynhwysol – gan eu gadael heb incwm o gwbl. Dangosodd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan yr Ymgyrch Seibiant Busnesau Newydd fod 83% o ymatebwyr heb fedru derbyn unrhyw gefnogaeth trwy Gredyd Cynhwysol.

Dywedodd Helen Mary Jones AS fod y sefyllfa yn “argyfyngus ac yn anghynaladwy” a rhybuddiodd Lywodraeth San Steffan i beidio â throi clust fyddar a galwodd arnynt i roi “cefnogaeth hanfodol” i’w sawl sydd wedi cwympo drwy’r rhwyd.

James Horton o Ben-y-bont yw un unigolyn nad yw’n gymwys am y Cynllun Cadw Swyddi. Wedi cychwyn swydd newydd cyn y pwynt torri ymaith, golygodd prosesau mewnol nad oedd ar eu cyflogres PAYE mewn pryd, a does ganddo ddim incwm. Er ei fod yn gwybod nad ef yw’r unig un, cyfaddefodd ei fod ef a’i deulu yn byw oddi ar gardiau credyd a dywedodd “nad ydynt yn gwybod am ba hyd y gall hyn bara.”

Ar ddydd Mercher, dywedodd Gweinidog Economi Cymru Ken Skates fod 74% o fusnesau yn cymryd rhan yn y Cynllun Cadw Swyddi – y ganran uchaf o’r rhai sy’n cymryd rhan ym mhedair cenedl y DG.

Dywedodd Ms Jones os na allai Llywodraeth San Steffan roi ateb, yna y dylai Llywodraeth Cymru “gamu i’r bwlch a rhoi ateb Cymreig” i’r broblem.

Dywedodd James Horton, nad yw’n gymwys am y gefnogaeth a gynigir:

“Wedi gweithio i SWALEC (SSE) am 4 blynedd, cynigiwyd swydd newydd i mi gyda chwmni tebyg ar ddechrau Chwefror. Cychwynnais yn fy swydd newydd ar Fawrth 16, a mynd i’w pencadlys yn Lloegr i gael fy hyfforddi. Tra bûm yno, cyhoeddwyd y camau cloi ledled y DG, a rhaid oedd i mi ddal y trên cyntaf yn ôl i dde Cymru.

“Yn fuan wedyn, cysylltodd fy nghyflogwr newydd â mi i ddweud fy mod wedi fy rhoi ar absenoldeb dros dro, ond cafwyd sôn am gynllun seibiant. Yn anffodus, daeth yn amlwg yn fuan iawn na fuaswn yn gymwys, am eu bod yn rhedeg eu cyflogres mis Mawrth ar Fawrth 10 a wnes i ddim ymuno tan Fawrth 16. Dysgais y medrwn hawlio yn unig petawn ar eu cyflogres PAYE ar Fawrth 19 2020 neu cyn hynny. Fe ddywedon nhw wrtha’i y buasent yn euog o dwyll petaent yn hawlio amdana’i!

For More Great News Stories Click The Banner

“Mae ‘ngwraig a minnau yn dibynnu ar fy nghyflog i fyw. Mae gyda ni forgais, plant, biliau a char i’w redeg. Mae hi’n weithiwr allweddol yn y GIG ac yn gorfod gweithio oriau hwy. Rwy’n pryderu o ddifrif y bydd yn dal coronafeirws.

“Roeddwn ar ben fy nhennyn, ac fe gysylltais â SWALEC (SSE) ond fe ddywedon nhw nad oedden nhw yn y sefyllfa iawn i roi help i mi. Fe es i mor uchel lan y gadwyn ag y gallwn, a hyd yn oed cysylltu â’m Haelod Senedd lleol, fy AS, a hyd yn oed ysgrifennu at Rishi Sunak! Helen Mary Jones, fy Aelod Senedd, oedd yr unig un gysylltodd â mi, a hoffwn ddiolch iddi hi am wrando ar fy stori.

“Y cyfan rwyf am wneud yw dangos i bobl mor annheg yw hyn. Dwyf i ddim wedi gwneud dim byd o’i le, ac rwy’n gwybod nad fi yw’r unig un, ond wnaiff hynny ddim rhoi bwyd ar y bwrdd. Rŷn ni’n byw oddi ar gardiau credyd, a wn i ddim am ba hyd y gall hyn bara.”

Meddai Helen Mary Jones,

“Mae miloedd o aelwydydd Cymru yn disgyn trwy’r craciau yng Nghynllun Cadw Swyddi Coronafeirws Llywodraeth San Steffan ac nid ydynt chwaith yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol.

“Heb iddynt hwy fod ar fai o gwbl, mae’r bobl hyn yn beryglus o agos at fethu talu eu rhent neu eu morgeisi.

“Mae storïau pobl fel James yn rhy gyffredin o lawer. Mae’r sefyllfa yn argyfyngus ac yn anghynaliadwy. All pethau ddim mynd ymlaen fel hyn.

“Rhaid i Lywodraeth San Steffan weithredu nawr i roi cefnogaeth hanfodol i’r bobl hyn sydd wedi cwympo trwy’r rhwyd. Byddai troi clust fyddar yn greulon.

“Ond os methant a gwneud hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r bwlch a rhoi ateb Cymreig i’r broblem hon. Profwch y gallwch sefyll dros Gymru a rhoi i’r bobl hyn y gobaith a’r gefnogaeth mae arnynt ei angen ac y maent yn ei haeddu.”

, ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online