MAE ffliw nawr ar led yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion ac mae pobl yn cael eu hannog i wneud cymaint ag y gallan nhw i gyfyngu ar ymlediad y clefyd hwn sydd â’r potensial i ladd.

Mae symptomau ffliw’n cynnwys gwres/twymyn, peswch, dolur gwddw/llwnc tost, cur pen/pen tost, poen cyhyrau a blinder. Os ydych chi’n meddwl bod ffliw gennych chi, gwiriwch eich symptomau gan ddefnyddio gwiriwr symptomau Galw Iechyd Cymru.

Os ydych chi’n meddwl bod ffliw gennych chi, y cyngor yw yfed digon o hylif, cymryd paracetamol neu ibuprofen, ac osgoi cyswllt â phobl fregus tra bo’r symptomau gennych.

Nid oes angen i’r rhan fwyaf o bobl fynd i weld eu meddyg teulu a byddan nhw fel arfer yn gwella o ffliw mewn rhyw wythnos. Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bob tro.

Dywedodd Dr Joanne McCarthy, Ymgynghorydd mewn Microbioleg Iechyd Cyhoeddus yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin:: “Mae ffliw’n salwch difrifol sy’n gallu achosi cymlethdodau fel broncitis, niwmonia, llid yr ymenydd ac ymchwydd yr ymenydd. Mae cymlethdodau’n fwyaf tebygol o ddigwydd i fabanod ifanc iawn, merched beichiog, pobl hŷn a phobl sydd â phroblemau iechyd hirdymor. Mae’n bwysig i’r bobl hyn gael cyngor prydlon gan eu meddygfa neu fferyllfa gymunedol.

“Y peth gorau i’r rhan fwyaf o bobl sydd â ffliw ei wneud yw gorffwyso gartref, cadw’n gynnes, yfed digon o hylif a chymryd paracetamol neu ibuprofen.

“Mae’n bwysig lleihau’r risg o ledu ffliw, felly dylech, bob tro:

  • Ei ddal- Mae germau’n lledu’n hawdd. Cariwch hancesi papur gyda chi o hyd a’u defnyddio i ddal eich peswch neu disian.
  • Ei daflu – Gall germau fyw am oriau ar hancesi papur. Gwaredwch nhw cyn gynted â phosibl.
  • Ei ddifa – Gall dwylo drosglwyddo germau i bob arwyneb rydych chi’n ei gyffwrdd. Golchwch eich dwylo cyn gynted ag y gallwch chi.

“Cofiwch hefyd lanhau arwynebau caled yn rheolaidd ac osgoi cyswllt ag eraill, yn enwedig os ydyn nhw mewn grŵp risg uchel.

For More Great News Stories Click The Banner

“Os ydych chi’n meddwl bod ffliw gennych a’ch bod chi’n feichiog, bod gennych gyflwr iechyd hirdymor, eich bod yn 65 oed neu’n hŷn, neu os yw’ch plentyn yn sâl, siaradwch â’ch meddygfa gan fod mwy o berygl o gymlethdodau ac efallai y cewch bresgripsiwn o foddion gwrth-firol er mwyn lleihau hyd y salwch. Dylech hefyd gael cyngor meddygol os yw’ch symptomau’n gwaethygu neu os nad ydyn nhw wedi gwella ar ôl wythnos.

Brechlyn ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o ddiogelu rhag dal neu ledu ffliw. Yn ystod y tymor ffliw diwethaf (2017/18), cafodd dros 100,000 o bobl yn Hywel Dda y brechlyn ac yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae’r brechlyn ffliw’n dal i fod ar gael, ac yn dal i allu cynnig peth amddiffyniad, felly ewch amdani.

Dywedodd Dr McCarthy hefyd: “Os ydych chi’n gwarchod plentyn sy’n sâl a’ch bod chi’n meddwl bod ffliw ganddo, mae’n bwysig siarad â’ch meddygfa neu fferyllfa leol am gyngor gan y gall ffliw fod yn ddifrifol i blant. Efallai bod hefyd angen help arnyn nhw i ddilyn y cyngor ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’, gan y bydd hyn yn helpu lleihau’r siawns o ledu ffliw.

“Mae plant yn rhai da am ledu firysau ymysg ei gilydd a’u teuluoedd neu ffrindiau drwy fod yn agos atyn nhw ac o achos diffyg hylendid fel golchi dwylo a pheidio â defnyddio hances wrth disian.

“Mae’r brechlyn chwistrell trwyn ar gyfer plant sy’n ddwy a thair blwydd oed (ar 31 Awst 2018) yn dal ar gael. Mae’n gyflym, yn ddi-boen, ac nid oes nodwydd. Dyma’r ffordd orau o ddiogelu eich plentyn rhag dal ffliw a lleihau ei ymlediad i deulu a ffrindiau. Cysylltwch â’ch meddygfa os nad yw eich plentyn wedi cael y brechlyn trwyn y gaeaf hwn.”

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Curwch Ffliw blynyddol ewch i: www.curwchffliw.org neuwww.beatflu.org

, , , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online