GOFYNNIR i bobl yn Sir Gaerfyrddin roi eu barn ynghylch y deddfau trwyddedu presennol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datblygu ymgynghoriad ar-lein fel rhan o adolygiad pum mlynedd i sicrhau bod system drwyddedu effeithiol yn cael ei chynnal yn y sir.
Mae’r cyngor yn annog trigolion, busnesau, deiliaid trwyddedau a sefydliadau eraill i gymryd rhan yn yr arolwg cyn iddo ddod i ben ar 8 Ionawr.
Bydd yr holl adborth o’r ymgynghoriad yn ffurfio rhan o unrhyw bolisi trwyddedu newydd.
Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar droseddau ac anhrefn sy’n gysylltiedig ag alcohol ac effaith hyn ar ardaloedd problemus yn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor sy’n gyfrifol am drwyddedu: “Mae hwn yn gyfle i bobl leisio unrhyw bryderon sydd ganddynt wrth i ni ystyried adolygu ein polisi trwyddedu presennol.
“Mae’n bwysig i bobl gymryd rhan a rhoi gwybod i ni am yr hyn sy’n effeithio arnyn nhw er mwyn i ni fynd i’r afael â’r meysydd hynny wrth ddatblygu ein polisi newydd.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ewch i wefan y cyngor.
More Stories
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Hywel Dda / St David’s Day celebrations at Hywel Dda
Amser yn brin i drigolion Porth Tywyn cronni talebau band eang tra chyflym
Ymestyn ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion tan 16 Gorffennaf