NOS Fercher, 14eg o Dachwedd, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn Neuadd Pontargothi.
Cyn dechrau’r cyfarfod, cyflwynwyd siec o £750 i Gronfa Ffrindiau Ysbyty Llanymddyfri gan Gadeirydd y Sir am y flwyddyn diwethaf; Mrs Mared Williams yn dilyn y Gymanfa Ganu yn ystod yr haf. Cyflwynwyd siec o £7260 hefyd i’r CGD Society drwy lawr teulu Nia Wyn Thomas, cyn Aelod y Sir a gollodd ei bywyd yn 2017.
Codwyd y swm yma drwy werthu tocynnau raffl, y Gymanfa Ganu a hefyd noson o hwyl a gemau gan y Llysgenhadon.
Miss Carys Thomas, San Ishmael cafodd ei hethol yn Gadeirydd Sir am 2018-2019 gyda Mr Iestyn Owen, Capel-Arthne yn Is-gadeirydd am y flwyddyn. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw. Diolch yn fawr iawn i Mrs Mared Williams am ei gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf fel Cadeirydd y Sir.
Mrs Jean Lewis cafodd ei ethol fel Llywydd y Sir gyda Mr Elfyn Davies yn cael ei ethol fel Is-Lywydd. Llongyfarchiadau iddynt hwy a diolch yn fawr iawn i Mr Arwyn Davies am ei gwaith a’i ymroddiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel Llywydd ar y Sir.
Yn ystod y cyfarfod blynyddol cyhoeddwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Penybont yn enillwyr o Gwpan John a Hazel James am y clwb gyda’r pwyntiau uchaf yng nghystadlaethau’r Sir am y flwyddyn 2017-2018.
Clwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd oedd yn derbyn Cwpan coffa Elfyn Richards am y clwb gyda’r pwyntiau uchaf yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus Cymraeg a Saesneg am 2017-2018 hefyd.
More Stories
Ymgyrch Easter – Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio â phartneriaid er mwyn gwarchod adar gwyllt sy’n nythu
Bydd yr etholiad yn diffinio ffawd economaidd Cymru am genhedlaeth
Mae Dave, goroeswr strôc o Sir Gaerfyrddin, wedi ymddangos mewn apêl ar y teledu dros y Gymdeithas Strôc
Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd yn werth £40m
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Hywel Dda / St David’s Day celebrations at Hywel Dda
Amser yn brin i drigolion Porth Tywyn cronni talebau band eang tra chyflym
Ymestyn ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion tan 16 Gorffennaf
Friendship Theatre Group launch documentary on last 26 years of Panto in Llanelli
Sir Gâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr
Ymgynghoriadau ynghylch ysgolion ar y gweill