MAE’R bwrdd iechyd yn ychwanegu at y ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu trwy gyflwyno gwasanaethau neges destun newydd er mwyn gwella profiad y claf ac i leihau’r siawns eich bod chi’n colli apwyntiad.
Rydym yn gweithio’n gyson i leihau amseroedd aros ar gyfer ein cleifion, a’r wythnos hon rydym wedi lansio gwasanaeth neges destun i unrhyw un sydd wedi cofrestru ei rif ffôn symudol â ni ac sydd ar restr aros ar hyn o bryd, yn holi a ydynt am barhau ar y rhestr ai peidio.
Gall cleifion optio-allan o gael y negeseuon testun unrhyw bryd. Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn lansio gwasanaeth atgoffa mewn neges destun ar gyfer yr adrannau cleifion allanol cyn bo hir er mwyn sicrhau bod cleifion yn ymwybodol o unrhyw apwyntiadau sydd ar y gweill, ac i leihau’r nifer o apwyntiadau sy’n cael eu colli. Ar hyn o bryd, mae hyn yn costio tua £4 miliwn y flwyddyn i’r bwrdd iechyd.
Meddai Anthony Tracey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwybodeg “Yn yr oes ddigidol hon, rydym yn cydnabod y bydd nifer fawr o’n poblogaeth yn elwa o gael negeseuon testun os ydynt ar restr aros am apwyntiad, yn arbennig felly os nad oes arnynt angen yr apwyntiad mwyach. Bydd hyn yn ein helpu i ryddhau lle yn y system ac yn sicrhau y gallwn redeg ein gwasanaethau mewn modd llawer mwy effeithiol.”
Meddai Stephanie Hire,Rheolwr Cyffredinol Gofal wedi’i Drefnu “Er bod y galw am wasanaethau cleifion allanol mewn ysbytai yn uchel, gwyddon fod 30,000 o apwyntiadau yn cael eu colli bob blwyddyn yn Hywel Dda sy’n dod ar gost uchel i’r bwrdd iechyd ac yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar y person sydd wedi colli’r apwyntiad hwnnw ond hefyd ar amseroedd aros, ar gleifion eraill ac ar ein clinigwyr. Felly, rydym yn falch o allu cyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn er budd pawb.”
Mae mwy o wybodaeth ar negeseuon testun ar gael er ein gwefan.
More Stories
Bydd yr etholiad yn diffinio ffawd economaidd Cymru am genhedlaeth
Mae Dave, goroeswr strôc o Sir Gaerfyrddin, wedi ymddangos mewn apêl ar y teledu dros y Gymdeithas Strôc
Cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd i brosiect Pentre Awel yn Llanelli sydd yn werth £40m
Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Hywel Dda / St David’s Day celebrations at Hywel Dda
Amser yn brin i drigolion Porth Tywyn cronni talebau band eang tra chyflym
Ymestyn ymgyngoriadau sy’n cael eu cynnal o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion tan 16 Gorffennaf
Friendship Theatre Group launch documentary on last 26 years of Panto in Llanelli
Sir Gâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr
Ymgynghoriadau ynghylch ysgolion ar y gweill
Helpwch Ni i’ch Helpu Chi pan gewch eich Derbyn mewn Argyfwng / Help Us to Help You when Admitted as an Emergency